Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Newyddlen 1
Click here to view in English
Croeso

Croeso i'r rhifyn cyntaf o newyddlen Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol. Cyhoeddir y briffiadau hyn yn fisol yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf i roi gwybod i chi am y datblygiadau mawr diweddaraf yn y Coleg. Bydd croeso i chi ymateb iddynt. Os bydd gennych chi gwestiwn neu sylw, cysylltwch â ni.

Yn y rhifyn hwn cewch chi wybod ychydig yn rhagor am ein gwaith ar gyfraniad y Coleg i Y Ffordd Ymlaen. Cewch chi hefyd eich cyflwyno i aelodau Tîm y Coleg a'ch gwahodd i ddod i gyfarfodydd o aelodau'r Coleg ym mis Medi i glywed rhagor am gynlluniau gweithredu y Coleg.

Y Athro George Boyne
Y Dirprwy Is-Ganghellor a Phennaeth Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.

Llywodraethu'r Coleg: Bwrdd y Coleg

Dan gadeiryddiaeth y Dirprwy Is-Ganghellor a Phennaeth y Coleg, Bwrdd y Coleg sy'n gyfrifol am gyfeirio gwaith 1,100 o staff academaidd a phroffesiynol, 13,000 o fyfyrwyr ac 11 o ysgolion academaidd y Coleg.

Ar Fwrdd y Coleg mae Penaethiaid yr Ysgolion Academaidd, Deoniaid Ymchwil, Addysg a Myfyrwyr, a Rhyngwladol y Coleg, ynghyd â Chofrestrydd y Coleg.

Bydd Deoniaid y Coleg hefyd yn gweithio ochr yn ochr â'u cyd-Ddeoniaid mewn colegau eraill, ynghyd â Dirprwy Is-Gangellorion thematig y Brifysgol.

Y Athro Amanda Coffey yw'r Deon Addysg a Myfyrwyr. Fe'i hetholwyd yn academydd o Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol yn 2011 ac mae'n Athro yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. A hithau'n un o'r cyfarwyddwyr a sefydlodd Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD), mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys pobl ifanc a newidiadau cymdeithasol, rhywedd ac addysg, a bywydau gweithio. Yn ei rôl fel Deon, blaenoriaethau Amanda yw sicrhau bod y Coleg yn rhannu arfer da ac yn cynyddu cyd-fanteision y Coleg hyd yr eithaf i sicrhau a chyfoethogi profiad y myfyrwyr.

Y Athro Ken Hamilton yw'r Deon Rhyngwladol. Mae'n bianydd mewn cyngherddau rhyngwladol, yn gerddolegydd ac yn ddarlledwr. Ei lyfr diweddaraf, 'After the Golden Age: Romantic Pianism and Modern Performance' (OUP) oedd “Llyfr y Flwyddyn” yn y DU gan y Daily Telegraph ac yn “Deitl Academaidd Nodedig” gan CHOICE yn yr Unol Daleithiau. Ken sy'n gyfrifol am symudedd myfyrwyr rhyngwladol drwy'r Brifysgol, am hwyluso systemau'r Coleg o recriwtio a derbyn myfyrwyr rhyngwladol, ac am hyrwyddo ymchwil y Coleg a'r effaith a gaiff hi dramor.

Y Athro Justin Lewis yw'r Deon Ymchwil, Arloesi a Menter ac mae'n Athro Cyfathrebu yn yr Ysgol Astudiaethau Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant. Mae ef wedi ysgrifennu'n helaeth am y cyfryngau, diwylliant a gwleidyddiaeth, cynulleidfaoedd y cyfryngau, polisi diwylliannol, y cyfryngau a hil. Ei flaenoriaeth uniongyrchol fydd helpu'r Ysgolion yn y Coleg i anfon y cyflwyniadau gorau i'r REF. Yn y tymor canolig, ei nod yw cyflawni rhai o'r meysydd allweddol o ran cynorthwyo ymchwil - er enghraifft, estyn cynllun y Cyfnodau Rhydd i Wneud Ymchwil - a gweithio ar fentrau strategol fel creu Canolbwynt i'r Diwydiannau Creadigol, y Labordy Syniadau a'r Llyfrgell newydd.

Buddsoddi Cyfalaf ledled y Coleg

Ers i'r Brifysgol ddatblygu rhaglen o fuddsoddi cyfalaf i wella'r cyfleusterau a gynigir i'w staff a'i myfyrwyr ledled y campws, mae'r Coleg wedi cyflwyno cyfres o geisiadau llwyddiannus i'r rhaglen honno. Ffrwyth hynny yw'r gwella a fu ar ystadau amryw o'r Ysgolion cyfansoddol. Erbyn hyn, mae'r gwaith ar y prosiectau isod yn mynd yn ei flaen a dylai gael ei gwblhau cyn i'r tymor academaidd nesaf ddechrau.

  • Gwella'r mannau addysgu yn yr adeilad Cerddoriaeth (buddsoddiad o £250,000)
  • Ailwampio'r 30 o ystafelloedd seminar a rennir yn Adeilad John Percival (buddsoddiad o £250,000)
  • Uwchraddio'r cyfleusterau addysgu a'r rhai i ôl-raddedigion yn Adeilad EUROP (buddsoddiad o £22,000)
  • Ailwampio labordai addysgu SHARE a gosod cyfleusterau TG newydd (buddsoddiad o £72,000)
  • Uwchraddio'r cyfleusterau yn Adeilad Morgannwg, gan gynnwys ailaddurno a gosod celfi newydd a chyfleusterau TG a chlyweledol newydd yno (buddsoddiad o £171,000)
  • Ailwampio cyfleusterau JOMEC (buddsoddiad o £600,000)

Yn ogystal, mae'r gwaith wedi cychwyn ar godi adeilad ychwanegol i CARBS, ac mae'r Coleg wedi gwneud amryw o geisiadau mawr newydd am gael buddsoddi cyfalaf. Cewch wybod am ganlyniad y ceisiadau hynny mewn rhifyn yn y dyfodol.

Ymateb i Y Ffordd Ymlaen

Ers i'r Is-Ganghellor ryddhau strategaeth Y Ffordd Ymlaen, sef y ddogfen sy'n amlinellu blaenoriaethau'r Brifysgol ar gyfer y pum mlynedd nesaf, mae gwaith wedi'i wneud ar gynlluniau gweithredu'r Coleg ar gyfer gweithgareddau ymchwil, addysg a myfyrwyr, a gweithgareddau rhyngwladol.

Caiff y cynlluniau gweithredu eu cylchredeg i gydweithwyr yn y Coleg i ymgynghori yn eu cylch ganol Medi.

Cyfarfodydd i'r Aelodau

Fel rhan o'r broses ymgynghori, yr ydym wedi trefnu cynnal dau gyfarfod ym mis Medi i holl aelodau'r Coleg gael gwybod rhagor am y cynlluniau gweithredu. Yn y cyfarfodydd hynny, bydd Deoniaid y Coleg yn cyflwyno crynodeb byr o bob cynllun gweithredu ac yna cynhelir sesiwn holi ac ateb. Dyma fanylion y cyfarfodydd:

  • Bore Mawrth 17 Medi, 09:30 - 10:30, Darlithfa Julian Hodge
  • Bore Iau 19 Medi, 09:30 - 10:30, Adeilad Syr Martin Evans, LT E/1.21
Tîm Gwasanaethau Proffesiynol y Coleg

Mae'r Coleg wedi gwneud amryw o benodiadau gweinyddol yn ddiweddar i gynorthwyo'r Ysgolion Academaidd yn y meysydd y rhoir blaenoriaeth strategol iddynt.

Anna Verhamme yw Cofrestrydd y Coleg. Arferai Anna fod yn Rheolwraig Coleg yn Ysgol Busnes Prifysgol Exeter. Yn Exeter, yr oedd hi hefyd wedi mynd yn gyfrifol am drefnu a gweithredu strwythurau newydd y gwasanaethau llywodraethu a phroffesiynol i helpu i ad-drefnu'r Brifysgol yn golegau. Mae hi wedi dal amryw o uwch-rolau ac mae ganddi gryn brofiad o reoli prosiectau mawr. Mae ganddi MA mewn Astudiaethau Menywod o Brifysgol Exeter.

Bydd Nichola Amor yn ymuno âr Coleg ddechrau Medi fel Swyddog Prosiectau a Mentrau. Ar hyn o bryd, mae'n Uwch-Swyddog Cynllunio yn Adran Gynllunio y Brifysgol, ac ar ôl ennill gradd mewn Seicoleg o Brifysgol Caerdydd fe aeth i weithio i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Siân Benwell yw Cynorthwyydd Personol Dirprwy Is-Ganghellor y Coleg. Bu'n Gynorthwyydd Personol i'r Prif Ddirprwy Is-Ganghellor o fis Awst 2008 tan fis Hydref 2012. Cyn hynny, bu'n gweithio yn y sectorau preifat a chyhoeddus i gyrff fel y GIG, y DVLA a Heddlu Gwent a bu hefyd yn Athrawes Saesneg fel Iaith Dramor yn Barcelona.

Bydd Laura Davies yn ymuno â'r Coleg fel Pennaeth Cyfathrebu ym mis Medi. Ar hyn o bryd, Laura yw'r Gyfarwyddwraig Cysylltiadau Allanol yn Ysgol Fusnes Caerdydd ac fe arferai weithio yn Nhîm Cysylltiadau Cyhoeddus y Brifysgol. Dychwelodd hi i Gaerdydd ar ôl graddio mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg o Goleg y Santes Anne, Rhydychen.

Mae Andrew Glanfield wedi dychwelyd i'w swydd fel Rheolwr yr Ysgol yn yr Ysgol Busnes, ond yn ystod yr haf a'r hydref bydd yn dal i weithio'n rhan-amser ar gynorthwyo rhaglen gydgysylltiedig y Coleg, 'Ieithoedd i Bawb', ac ar linynnau gwaith posibl ar ad-drefnu'r ysgolion academaidd.

Bydd Nick Hogben yn ymuno â'r Coleg ym mis Awst ac yn ymgymryd â rôl Cyfrifydd Rheoli. Mae gan Nick gryn brofiad o fyd cyfrifydda a chyllid ac mae ef wedi gweithio ar draws y sectorau preifat a chyhoeddus. Mae'n Rheolwr Cyllid i sefydliad yn y GIG ar hyn o bryd ac yn ddiweddar fe chwaraeodd rôl hanfodol drwy wneud adolygiad cynhwysfawr o addysg uwch ym maes iechyd yng Nghymru - adolygiad sydd wedi arbed rhai miliynau o bunnoedd. Mae gan Nick radd mewn cyfrifeg ac mae ef hefyd yn gyfrifydd siartredig a chymwysedig.

Bydd Rhian Roberts yn ymuno â'r Coleg ym mis Awst fel Partner Busnes Adnoddau Dynol. Mae Rhian wedi gweithio i Tata Steel Europe oddi ar fis Mehefin 2007 ac wedi cyflawni rôl arwain allweddol yng Ngweithfeydd Dur Port Talbot, Llanelli a Llan-wern. Mae'n Bartner Busnes profiadol ym myd Adnoddau Dynol ac wedi gweithio yn y sectorau preifat, cyhoeddus a dielw i sefydliadau fel Tai Gwalia, Llysoedd Ynadon De Cymru ac Orange.

Prifysgol Caerdydd, Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Newyddlen 1: Awst 2013